Mwynhad yn yr haf i ddilynwyr cwrw da
Yr unig Wyl Gwrw a Seidr symudol yng Nghymru
Croeso i Wyl Flynyddol Cwrw a Seidr Dyffryn Clwyd- pa mor aml gall pawb sy`n hoff o gwrw a seidr gael cyfle i ddewis o dros 30 o wahanol fathau o gwrw a 12 wahanol seidr mewn chwe tafarn gyfforddus heb orfod poeni am yrru? Cewch gyfle i flasu popeth o`r “Purple Moose” i`r “Wicked Wasp”. Ynghyd a diodydd enwog fel “Young`s” a “Theakstons bydd cwrw o Gonwy, Wrecsam a Fflint, a hyd yn oed seidr o Landegla. Bydd y tafarnau sy`n cymeryd rhan, sef y Kinmel, Llew Gwyn a`r Llew aur yn Llandyrnog, y Llew Aur yn Llangynhafal, Y Griffin yn Llanbedr DC a`r Three Pigeons yng Ngraigfechan yn darparu bwydlen lawn o fwyd, cerddoriaeth a gweithgareddau.
|
Mae`r bws rhif 76 sy`n berchen i gwmni M & H o Ddinbych yn trafaelio`r daith hyn yn rheolaidd. Diolch i gefnogaeth gan Gyngor Sir Ddinbych, mae`r gwasanaeth yma wedi`i ymestyn a mae tocyn crwydro ar gael am ddim ond £3. Golyga hyn y gallwch ymuno neu ddisgyn lle bynnag y mynnwch yn ystod y dydd rhwng yr orsaf bysus yn Ninbych a`r arhosfan olaf, sef tafarn y “Three Pigeons”.
|
Roedd yr Wyl gyntaf llynedd yn lwyddiant mawr ac yn boblogaidd dros ben a rydym yn gobeithio y bydd yn well fyth eleni. Mae`n esiampl werth chweil o fusnesau bach gwledig yn cydweithio i gyflenwi rhywbeth gwahanol ar gyfer eu cwsmeriaid. Mae gan pob tafarn arhosfan bws a gyda`r gwasanaeth bysus ychwanegol mi ddylai fod yn fws pob awr. Rydym am greu diwrnod arbennig y gall pawb ei fwynhau. Mae tafarnau gwledig yn rhan anatod o`n hardaloedd cefn-gwlad a hyderwn y bydd yr Wyl yma yn ychwanegu at eu hatyniadau a`r mwynhad sydd i`w gael.
Bydd dewis eang o weithgareddau hwylus yn cael eu cynnal a bydd bwyd ar gael yn y chwe tafarn ynghyd a gwledd gerddorol hefo band Jazz yn y “Kinmel Arms”, gitarydd “Blues” – John Rogers yn chwarae yn Llangynhafal a sesiwn trowch i mewn a chwareuwch yn y “Three Pigeons”. |
Ym mhob un o`r tafarnau mae ymrwymiad arbennig i gwrw a seidr lleol hefo llawer o esiamplau arbennig o`r nifer cynyddol o Fragdai bychan sy`n ymddangos yng Ngogledd Cymru. Busnesai bach yw`r bragdai hyn ac meant angen cefnogaeth os ydynt am ffynnu. Maent yn cadw yn fyw hen draddodiadau a`r grefft o gynhyrchu cwrw lleol sydd wedi bod ar goll ers peth amser, ond sydd bellach diolch i`r drefn yn ail-sefydlu.
Bydd dau fys yn rhedeg drwy gydol y dydd ar y llwybyr, felly dylai fod dim mwy na rhyw hanner awr o waith aros am y nesaf. Bydd y bws olaf yn gadael “Morrisons” yn Ninbych a`r “Three Pigeons” am oddeutu 10.30 yh y noson honno ac yn darfod yn Rhuthun am 11.15 yh a Dinbych am 11.30 yh.
Carem ddiolch o gallon yr holl noddwyr sydd wedi body n hael hefo`u cefnogaeth a`u hysbysebion- cofiwch mae busnesau bach lleol yw llawer o`r rhain ac y byddant yn falch iawn o`ch cefnogaeth. Diolch |